Close
Your privacy and our use of cookies

Cookies help us improve your Royal Mail online experience. If you accept their use, continue using our site. Or, find out more about cookies

Skip to main content
Log in / Register

Log in securely

8 or more characters containing at least one letter and one number

  • Email my password reminder
  • Send me a new password

Not registered yet?

Register
  • Other Royal Mail accounts
  • Online Business Account login
  • Click & Drop
  • Help
  • Our locations
  • Log In / Register
  • Personal
  • Business
Royal Mail Logo
  • Track your item
  • Find a postcode
  • Get a price
  • Redelivery
  • Pay a fee
  • Sending mail
    • Tools
      Buy postage online
      Return an item
      Find a service near you
      Shop for stamps
      Find a postcode
      UK parcels and letters
      Special Delivery Guaranteed by 9am
      Special Delivery Guaranteed by 1pm
      Royal Mail Tracked 24®
      Royal Mail Tracked 48®
      1st Class
      2nd Class
      Sameday courier
      All UK services and prices
      International
      International Tracked and Signed
      International Tracked
      International Standard
      Country customs and restrictions
      All international services and prices
      All sending services
  • Track and manage
    • Tools
      Track your item
      Arrange a Redelivery
      Return an item
      Pay a fee
      Find your delivery office
      Moving?
      Redirect your mail
      Going away?
      Hold my mail
      Get a PO Box
      Apply for a PO Box
      See all receiving services
  • Shop
    • Postage and packaging
      1st and 2nd Class stamps
      Envelopes
      Packaging materials
      Business mail supplies
      All postage and packaging
      Special stamp issues
      Christmas 2019
      The Gruffalo
      Royal Navy Ships
      Elton John
      2019 stamp calendar
      All special stamps
      Collectibles and gifts
      Presentation packs
      Framed stamps and prints
      First Day Covers
      Coins and medals
      Bundles
      All collectibles and gifts
      Visit Shop
  • Help & support
    • Help with tracking
      Track your item help
      Tracking international items
      What our tracking messages mean
      Get in touch
      Latest service updates
      How to make a claim
      How do I make a complaint?
      Contact Royal Mail
      Help with your mail
      Letter and parcel size guide
      Restrictions and prohibitions
      Wrapping and packaging your mail
      Customs information
      Redirection support
      How to address your mail
      Help with a Redelivery
      I think my mail is lost
      When we can't deliver
      See all help & support
  • Christmas
    • Christmas posting guide
      Last posting dates
      Write a letter to Santa
      Christmas shop
      Christmas stamps
      Gifts
      Christmas 2019
  • Home
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Subscribe to RSS - Opens in a new window
  • Email
  • Print
  • Share
Close

Share this page

  • Facebook - Opens in a new window
  • Twitter - Opens in a new window
  • Linked in - Opens in a new window
  • Google - Opens in a new window

Hysbysiad Preifatrwydd

Croeso i hysbysiad preifatrwydd Grŵp y Post Brenhinol. Ar y dudalen hon fe welwch gyfieithiadau o Hysbysiad Preifatrwydd Grŵp y Post Brenhinol mewn amrywiaeth o ieithoedd. Dim ond fersiwn Saesneg Hysbysiad Preifatrwydd Grŵp y Post Brenhinol sydd yn awdurdodol ac yn ffurfio ein Hysbysiad Preifatrwydd gwirioneddol. Darperir cyfieithiadau mewn unrhyw iaith arall er cyfleustra yn unig. Diweddarwyd y cyfieithiadau ddiwethaf ar 23 Awst 2018.

Mae Grŵp y Post Brenhinol wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd a diogelu eich data personol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn casglu ac yn defnyddio eich data personol ac mae’n dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd.

Rydym wedi diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd i ystyried gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Rydym wedi rhannu’r hysbysiad preifatrwydd yn adrannau er mwyn i chi allu clicio trwy’r meysydd penodol isod. 

 
  • 1. Ynglŷn â Grŵp y Post Brenhinol a’r hysbysiad preifatrwydd hwn

     

    Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd y mae Grŵp y Post Brenhinol yn prosesu data personol. Mae hyn yn cynnwys data personol y byddwn yn ei gasglu amdanoch chi pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, neu pan fyddwch yn defnyddio neu’n derbyn ein gwasanaethau, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth yr ydym yn ei gael o ffynonellau eraill.

    Mae data personol yn wybodaeth sy’n ymwneud â pherson byw y gellir ei adnabod. Gall hyn fod yn wybodaeth fel eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a manylion personol eraill.

    Mae Grŵp y Post Brenhinol yn cynnwys y Post Brenhinol a Parcelforce Worldwide. Y rheolwr data sydd yn prosesu eich data personol fydd Grŵp y Post Brenhinol Cyfyngedig oni bai ein bod yn nodi fel arall. Ein cyfeiriad yw:

    Royal Mail Group Limited
    100 Victoria Embankment
    London
    EC4Y 0HQ

    Pan fyddwch yn defnyddio neu’n derbyn cynnyrch neu wasanaethau gan Grŵp y Post Brenhinol, byddwn, lle y bo’n briodol, yn rhoi mwy o wybodaeth am y ffordd y caiff eich data personol ei ddefnyddio. Dylid darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn gydag unrhyw hysbysiad prosesu teg arall neu wybodaeth ychwanegol y byddwn yn ei darparu.

  • 2. Data personol yr ydym yn ei ddefnyddio

     

    Mae Grŵp y Post Brenhinol yn prosesu mathau amrywiol o ddata personol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni a gwybodaeth yr ydym yn ei chreu wrth ddarparu gwasanaethau i chi a chwsmeriaid eraill. Am fwy o fanylion am y data personol yr ydym yn ei phrosesu, a sut caiff y data hwn ei gasglu neu ei gaffael, gweler y tabl isod.

    Categorïau data Disgrifiad  Ffynhonnell
    Gwybodaeth Gyswllt

    Mae hyn yn cynnwys eich enw, cyfeiriad a gwybodaeth gyswllt arall, fel eich cyfeiriad e-bost a’ch rhifau ffôn.

    Os ydych yn gweithio i un o’n cwsmeriaid busnes, byddwn yn cofnodi enw eich busnes, eich swydd yn y busnes a chyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn y busnes.

    Rhoddir y wybodaeth hon gennych chi pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, pan fyddwch yn cysylltu â ni’n uniongyrchol neu pan fyddwch yn defnyddio neu’n derbyn gwasanaethau Grŵp y Post Brenhinol.

    Byddwch hefyd yn rhoi’r wybodaeth hon i Grŵp y Post Brenhinol pan fyddwch yn llenwi un o’n ffurflenni neu’n gwneud cais am wasanaeth oddi wrthym ar-lein, fel sefydlu gwasanaeth Ailgyfeirio ar gyfer eich post. Byddwn hefyd yn cael rhywfaint o’r data hwn wrth sgrinio post yn ein rhwydwaith.

    Neu, gallwn gael manylion personol gan drydydd partïon. Er enghraifft, pan fyddwn yn cael data marchnata trydydd parti neu wybodaeth gan, neu yn deillio o, ffynonellau cyhoeddus fel y gofrestr etholiadol.

    Manylion ariannol Cofnod o’ch taliadau a’ch gwybodaeth dalu, fel manylion talu cerdyn credyd neu ddebyd.

    Rydych yn darparu’r wybodaeth yma eich hun pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n ei darparu i dderbyn taliad.

    Gallwn hefyd dderbyn y wybodaeth hon gan drydydd partïon, fel banciau ac asiantaethau cyfeirio credyd pan fyddwn yn cael awdurdodiad am daliad y byddwch yn ei wneud neu wrth gynnal gwiriad hunaniaeth.

    Dewisiadau marchnata Data sy’n cofnodi eich dewis i dderbyn cyfathrebiadau marchnata neu os byddwch wedi dewis peidio derbyn cyfathrebiadau marchnata. Caiff y wybodaeth hon ei chreu pan fyddwch yn darparu gwybodaeth gyswllt yn ystod trafodyn gyda Grŵp y Post Brenhinol, fel pan fyddwch yn gwneud cais am wasanaeth neu pan fyddwch yn cofrestru gydag un o’n gwefannau, neu pan fyddwch yn diweddaru eich dewisiadau marchnata.
    Cofnodion cwsmeriaid Cofnodion o gynnyrch a gwasanaethau yr ydych wedi eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys cofnodion o lythyrau a pharseli yr ydych wedi eu hanfon os ydych yn gwsmer cyfrif neu os byddwch yn rhoi eich enw a’ch cyfeiriad fel anfonwr llythyr neu barsel. Chi sy’n darparu llawer o’r wybodaeth yma eich hun pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn hefyd yn creu’r wybodaeth hon wrth ddarparu ein gwasanaethau.
    Hanes cyfeiriadau Eich hen gyfeiriad a’ch cyfeiriad newydd pan fyddwch yn trefnu gwasanaeth Ailgyfeirio. Chi sy’n darparu’r wybodaeth hon eich hun os ydych yn defnyddio ein gwasanaeth Ailgyfeirio. Gallwn hefyd dderbyn y wybodaeth hon os bydd rhywun arall yn eich cartref yn gwneud cais am wasanaeth Ailgyfeirio.
    Data cyfeiriad Mewn achosion cyfyngedig, gall cyfeiriad adeilad neu fan dosbarthu gynnwys data personol (er enghraifft, pan ellir adnabod man/adeilad dosbarthu trwy gyfenw’r meddiannydd). Gall Grŵp y Post Brenhinol dderbyn y wybodaeth yma gennych chi neu gan awdurdod lleol.
    Hanes cysylltiadau Dyma fanylion unrhyw ymholiad, cwyn neu hawliad yr ydych wedi eu gwneud i Grŵp y Post Brenhinol a gallant gynnwys copïau o ohebiaeth a chofnod o alwadau. Chi fydd yn rhoi’r wybodaeth yma i ni pan fyddwch yn cysylltu â ni i wneud ymholiad neu gŵyn. Byddwn hefyd yn creu cofnodion yn ymwneud â’r cyswllt hwn.
    Gwybodaeth prawf dosbarthu Cofnodion dosbarthu yn cynnwys llofnod, enw a chyfeiriad pobl sy’n llofnodi am neu’n derbyn eitemau post sy’n cael eu dosbarthu. Chi sy’n darparu’r wybodaeth yma os ydych yn derbyn eitem bost, yn cynnwys pan fyddwch yn derbyn eitem sy’n cael ei dosbarthu ar gyfer person arall, fel cymydog.
    Manylion morgludiant rhyngwladol Gwybodaeth yn ymwneud â llythyrau a pharseli rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys: enw a chyfeiriad y morgludwr, enw a chyfeiriad y derbynnydd. Mae Grŵp y Post Brenhinol yn derbyn y wybodaeth hon gan awdurdodau post dramor. Os byddwch yn anfon neu’n derbyn llythyr neu barsel o dramor, bydd Grŵp y Post Brenhinol yn cael y data personol sydd ei angen ar gyfer cliriad tollau a threth neu ar gyfer sgrinio diogelwch.
    Gwybodaeth am y derbynnydd

    Cofnodion o lythyrau neu barseli a ddosberthir i chi a’r gwasanaethau a ddefnyddir gan yr anfonwr.

    Defnyddir eich enw a’ch cyfeiriad i gasglu, didoli, olrhain a dosbarthu eitem atoch chi. Gall anfonwr hefyd roi gwybodaeth gyswllt i ni, fel eich rhif ffôn neu eich cyfeiriad ebost, er mwyn i ni allu rhoi diweddariadau dosbarthu.

    Rydym yn derbyn y wybodaeth yma gan anfonwyr eitemau post neu’n casglu data o’r tu allan i eitemau post er mwyn eu hanfon trwy ein rhwydwaith yn effeithlon er mwyn iddynt gael eu dosbarthu.

    Bydd Grŵp y Post Brenhinol hefyd yn derbyn data personol gan awdurdodau post dramor. Os bydd eitem yn cael ei hanfon atoch o dramor, byddwn yn derbyn gwybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer cludo, cliriad tollau, sgrinio diogelwch a dosbarthu.

    Recordiadau ohonoch chi Delweddau sy’n cael eu recordio ar Deledu Cylch Cyfyng ac offer arall a ddefnyddir i ddiogelu ein cwsmeriaid, ein cyflogeion a’n heiddo. Gallwn recordio delweddau ohonoch chi os byddwch yn ymweld â lleoliad lle mae Teledu Cylch Cyfyng yn gweithredu.
    Delweddau ohonoch chi Ffotograffau o unigolion, er enghraifft, lle mae delwedd yn cael ei lanlwytho i gael ei hargraffu ar gynnyrch wedi ei bersonoli neu stamp. Gall Grŵp y Post Brenhinol dderbyn ffotograffau a delweddau o unigolion lle mae’r rhain yn cael eu darparu gennych chi neu drydydd parti. Er enghraifft, os ydych yn lanlwytho eich delwedd ar un o’n gwefannau.
  • 3. Sut rydym yn defnyddio data personol

     

    Mae Grŵp y Post Brenhinol yn prosesu data personol at nifer o ddibenion gwahanol. Bydd Grŵp y Post Brenhinol ond yn prosesu eich data personol pan fydd sail gyfreithiol dros wneud hynny o dan gyfreithiau diogelu data ac mae’r tabl isod yn nodi’r rhain (gall mwy nag un sail gyfreithiol fod yn berthnasol mewn rhai sefyllfaoedd). I grynhoi, y seiliau cyfreithiol perthnasol yw:

    (a) Caniatâd: rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich data ar ddiben penodol.
    (b) Contract: mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer contract neu gytundeb gyda chi.
    (c) Dyletswydd Cyfreithiol: mae angen y prosesu er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith.
    (d) Buddiannau Dilys: mae angen y prosesu ar gyfer buddiannau dilys Grŵp y Post Brenhinol neu sefydliad arall.

    Y dibenion yr ydym yn prosesu data personol a’r sail gyfreithiol dros wneud hynny ym mhob achos yw:

    Diben Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
    Darparu gwasanaethau ar eich cyfer lle mae contract neu gytundeb yn bodoli gyda chi. Contract – mae angen i ni brosesu eich data er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn i chi yn unol â’r contract neu’r cytundeb hwnnw.

    Darparu gwasanaethau post i chi pan fyddwch wedi ein talu ni i wneud hynny ond nid oes gennym gontract neu gytundeb gyda chi, fel rhai amgylchiadau pan fyddwch yn anfon llythyr neu barsel gan ddefnyddio ein gwasanaethau.

    Mae gan rai cynnyrch neu wasanaethau’r Post Brenhinol delerau ac amodau wedi eu nodi mewn dogfennau o’r enw ‘Cynlluniau’. Caiff y Cynlluniau hyn eu cyhoeddi yn unol â Deddf Gwasanaethau Post 2000 ac maent yn golygu nad oes angen i’r Post Brenhinol gael contractau unigol gyda phob cwsmer sy’n prynu’r cynnyrch hyn neu’n defnyddio’r gwasanaethau hyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.royalmail.com/non-contract-terms-and-conditions

    Buddiannau Dilys – mae angen i ni brosesu eich data i ddarparu’r gwasanaethau post hyn yr ydych wedi talu amdanynt.
    Darparu gwasanaethau post i drydydd parti, fel rhywun yn anfon llythyr neu barsel atoch chi a ni’n defnyddio eich data chi i’w ddosbarthu neu roi diweddariadau dosbarthu. Buddiannau Dilys – mae angen i ni brosesu eich data i ddarparu’r gwasanaethau post hyn, yn cynnwys dosbarthu’r llythyr neu’r parsel atoch chi a darparu gwasanaethau ychwanegol, fel diweddariadau dosbarthu.
    Darparu gwasanaethau post trwy drydydd parti, lle’r ydych wedi cytuno i dderbyn eitem sy’n cael ei dosbarthu ar ran person arall (fel cymydog) ac rydych wedi rhoi eich manylion i’n galluogi ni i gofnodi’r dosbarthu, yn cynnwys pan fyddwn yn hysbysu’r anfonwr a derbynnydd gwasanaethau Grŵp y Post Brenhinol eich bod wedi derbyn yr eitem honno. Buddiannau Dilys a chaniatâd – mae angen i ni brosesu eich data i roi eich manylion i’r anfonwr a’r derbynnydd er mwyn cwblhau’r dosbarthu a galluogi’r dosbarthu i gael ei olrhain yn iawn o fewn y gwasanaeth post. Mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn cael eich caniatâd i wneud hyn, neu bydd gennym fudd dilys dros wneud hynny.
    Fel rhan o wasanaethau olrhain a chanfod Grŵp y Post Brenhinol, lle’r ydym yn darparu gwasanaeth sy’n hysbysu’r anfonwr a’r derbynnydd am wasanaethau Grŵp y Post Brenhinol am statws dosbarthu ac amseriad y gwasanaeth hwnnw. Buddiannau Dilys – mae angen i ni fonitro statws dosbarthu Gwasanaethau Grŵp y Post Brenhinol i wella ein gwasanaeth a rhoi gwybodaeth well i’n cwsmeriaid.
    Gwasanaethau cwsmeriaid – ymdrin ag ymholiadau, cwynion neu hawliadau yn ymwneud â’n gwasanaethau. Buddiannau Dilys – gall fod angen i ni brosesu eich data er mwyn i ni allu ymdrin ag unrhyw ymholiad, cwyn neu hawliad a godir gennych chi neu berson arall, a’u datrys.
    Darparu gwasanaethau data i sefydliadau eraill, sef ein cwsmeriaid busnes, i’w helpu i gynnal eu busnesau’n well, ac i Lywodraeth y DU. Er enghraifft, rydym yn darparu gwasanaethau at ddibenion cynnal a diweddaru data cyfeiriad cywir, er mwyn dilysu hunaniaeth neu ddibenion atal twyll, ac i helpu busnesau i dargedu eu marchnata. Buddiannau Dilys – mae gan ein cwsmeriaid busnes a Llywodraeth y DU fudd dilys i brosesu data yn y ffyrdd hyn, ac mae gennym fudd dilys i brosesu data i’w cynorthwyo nhw i wneud hynny. Ym mhob achos, mae angen i ni brosesu eich data personol er mwyn mynd ar drywydd y buddiannau hynny.
    Marchnata ein cynnyrch a’n gwasanaethau ein hunain yn uniongyrchol i’n cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid.

    Buddiannau Dilys a Chaniatâd – mae gennym fudd dilys i farchnata ein cynnyrch a’n gwasanaethau i gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, ac weithiau mae angen prosesu eich data i wneud hyn. Mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn cael eich caniatâd i anfon cyfathrebiadau marchnata.

    Mae gennych bob amser hawl i ddewis peidio derbyn marchnata uniongyrchol. Gweler adran 4 isod am fwy o wybodaeth am farchnata.

    Gwella profiad ein cwsmeriaid o’n gwasanaethau a’n gwefannau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio gwybodaeth am eich ymweliadau i’n gwefannau i werthuso a deall sut mae pobl wahanol yn defnyddio ein gwefannau a faint o amser y maent yn ei dreulio ar dudalennau penodol. Buddiannau Dilys – mae angen i ni weithiau brosesu data personol er mwyn deall sut rydych yn defnyddio ein gwasanaethau er mwyn i ni allu eu gwella.
    Ymchwil i’r farchnad a dadansoddi, a datblygu gwasanaethau newydd. Er enghraifft, gallwn ddatblygu gwasanaethau post newydd neu wasanaethau data newydd i gwsmeriaid busnes (at ddibenion cynnal data cyfeiriad cywir, at ddibenion dilysu hunaniaeth neu atal twyll, ac i helpu busnesau i dargedu eu marchnata). Buddiannau Dilys – mae angen i ni weithiau brosesu data personol i ddatblygu gwasanaethau newydd y gallwn eu cynnig i chi a phobl eraill.
    Diogelwch, atal twyll a gwyngalchu arian, a chymryd camau yn erbyn twyllwyr neu bobl sy’n cyflawni trosedd. Buddiannau Dilys – mae angen i ni weithiau brosesu data personol i ddiogelu hawliau, eiddo a diogelwch personol. Gweler adran 6 isod am fwy o wybodaeth am ddiogelwch ac atal twyll.
    Tollau a chliriad tollau, a sgrinio diogelwch wrth anfon neu dderbyn post i neu o dramor. Dyletswydd Gyfreithiol - mae angen i ni brosesu data personol er mwyn cydymffurfio â rheoliadau cyllid a thollau.
    Atal a chanfod troseddau – yn cynnwys defnyddio Teledu Cylch Cyfyng i ddiogelu ein cwsmeriaid, ein cyflogeion a’n heiddo. Buddiannau Dilys – mae angen i ni weithiau brosesu data personol er mwyn diogelu hawliau, eiddo a diogelwch personol ein staff a’n cwsmeriaid.
    Cydymffurfio â’r gyfraith, yn cynnwys gofynion rheoliadol. Er enghraifft, mae’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth Gwasanaethau Post, i Grŵp y Post Brenhinol gadw Ffeil Cyfeiriadau Côd Post (PAF) a’i darparu i bobl neu sefydliadau sy’n dymuno ei gweld ar delerau rhesymol. Dyletswydd Gyfreithiol - er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol, yn cynnwys amodau rheoliadol sy’n berthnasol i weithredwyr post, a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, mae’n rhaid i ni weithiau brosesu data personol.

     

    Os oes mwy nag un sail wedi ei nodi yn y tabl uchod, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod os oes angen manylion arnoch am y sail gyfreithiol benodol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol mewn sefyllfa benodol.

  • 4. Gwybodaeth am farchnata

     

    Marchnata

    Dymuna Grŵp y Post Brenhinol gadw mewn cysylltiad â chi am ein cynnyrch, gwasanaethau a chynigion a allai fod o ddiddordeb i chi. Gallwch ddewis a ydych yn dymuno derbyn y cyfathrebiadau hyn a gallwch wrthwynebu unrhyw bryd.

    Ni fydd Grŵp y Post Brenhinol yn anfon y cyfathrebiadau hyn i unigolion os byddwch yn dewis peidio’u derbyn neu os ydych fel arall yn gofyn i ni roi’r gorau i farchnata’n uniongyrchol. Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi, y gellir ei defnyddio at ddibenion marchnata, byddwn yn rhoi cyfle i chi wrthwynebu i farchnata.

    Gall sefydliadau brosesu data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol lle mae’n angenrheidiol i’w buddiannau dilys. Mae gan Grŵp y Post Brenhinol fudd dilys yn hyrwyddo ei gynnyrch a’i wasanaethau ond bydd bob amser yn cydymffurfio â rheoliadau preifatrwydd a hawl unigolion i wrthwynebu i farchnata.

    Gallwn ddefnyddio eich data personol i’n galluogi i roi cynnwys marchnata wedi ei dargedu i chi trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein.

    Personoli eich profiad

    Hoffem sicrhau bod cyfathrebiadau marchnata sy’n berthnasol i’n cynnyrch a’n gwasanaethau, yn cynnwys hysbysebu ar-lein, yn berthnasol i’ch buddiannau. I wneud hyn, gallwn ddefnyddio eich data personol i ddeall eich buddiannau yn well, er mwyn i ni allu ceisio rhagweld pa gynnyrch, gwasanaethau a gwybodaeth arall y gallai fod gennych y diddordeb mwyaf ynddynt. Mae hyn yn ein galluogi ni i deilwra ein cyfathrebiadau i’w gwneud yn fwy perthnasol a diddorol i chi. Mae edrych ar eich ymddygiad pori a’ch pryniannau yn ein helpu ni i’ch deall chi fel cwsmer yn well ac mae’n ein galluogi ni i roi gwasanaethau, cynnwys, cyfathrebiadau a hysbysebu ar-lein wedi eu personoli i chi. Gallwn hefyd fesur eich ymatebion i gyfathrebiadau marchnata’n ymwneud â chynnyrch a gwasanaethau yr ydym yn eu cynnwys, sy’n ein galluogi ni i gynnig cynnyrch a gwasanaethau sy’n bodloni eich anghenion fel cwsmer yn well. Os nad ydych eisiau i ni bersonoli fel hyn, gallwch ddewis peidio cytuno i bersonoli yma. Os byddwch yn peidio cytuno i bersonoli, byddwn hefyd yn rhoi’r gorau i anfon ein cyfathrebiadau marchnata atoch.

    Newid eich dewisiadau marchnata

    Gallwch newid eich dewisiadau marchnata ar-lein, dros y ffôn, trwy ddefnyddio’r ddolen ‘datdanysgrifio’ yn ein negeseuon ebost marchnata, ateb STOP i’r côd byr yn ein negeseuon testun marchnata neu trwy ysgrifennu atom unrhyw bryd. Eich dewis chi ydyw, ond os byddwch yn dweud nad ydych eisiau derbyn gwybodaeth marchnata oddi wrthym, bydd hyn yn eich atal rhag derbyn cynigion neu glywed am gynnyrch eraill a allai fod o ddiddordeb i chi.

    Gallwch dderbyn cyfathrebiadau yn ymwneud â’r gwasanaeth gennym o hyd. Er enghraifft, gallwch dderbyn neges yn cadarnhau eich archeb ac yn rhoi gwybodaeth bwysig am eich defnydd o’n cynnyrch neu’n gwasanaethau o hyd.

    Os ydych wedi cofrestru trwy ein gwefannau royalmail.com neu parcelforce.com, gallwch newid eich dewisiadau marchnata ar-lein unrhyw bryd:

    • Dewisiadau marchnata a ddarperir trwy royalmail.com

    Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer derbyn cyfathrebiadau marchnata trwy’r adran ‘Fy Nghyfrif’ ar wefan y Post Brenhinol: https://www.royalmail.com/user/login

    • Dewisiadau marchnata a ddarperir trwy parcelforce.com

    Gall cwsmeriaid cyfrif newid eu dewisiadau ar gyfer derbyn cyfathrebiadau marchnata trwy’r adran ‘Fy Mhroffil’ o wefan Parcelforce: https://www.parcelforce.com/user/login

    Gallwch hefyd gysylltu â’n tîm Hawliau Gwybodaeth yn gofyn i ni roi’r gorau i anfon negeseuon ebost marchnata, llythyrau neu fathau eraill o farchnata uniongyrchol – information.rights@royalmail.com 

    Ymchwil i’r farchnad

    Hoffem glywed eich safbwyntiau am y gall hyn ein helpu i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau. Felly o bryd i’w gilydd gallwn gysylltu â chi at ddibenion ymchwil i’r farchnad. Mae gennych ddewis bob amser ynghylch a ydych eisiau cymryd rhan mewn ymchwil i’r farchnad. 

  • 5. Gyda phwy y mae Grŵp y Post Brenhinol yn rhannu data?

     

    Grŵp Mewnol y Post Brenhinol

    Gall cyflogeion neu asiantau perthnasol yn Grŵp y Post Brenhinol gael mynediad i’ch data at y dibenion a nodir uchod. Er enghraifft, os byddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad neu gŵyn, bydd cyflogeion perthnasol yn ein timau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn gweld eich gwybodaeth. Rhestrir categorïau o dderbynwyr y tu hwynt i Grŵp y Post Brenhinol isod:

    Cwsmeriaid

    Rydym yn rhannu data personol gyda chwsmeriaid Grŵp y Post Brenhinol at ddibenion darparu gwasanaethau ar eu cyfer. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys darparu prawf dosbarthu a gwybodaeth am statws dosbarthu ar gyfer eitemau yr ydym wedi eu dosbarthu neu ddata a rennir yn unol â thelerau ac amodau gwasanaethau penodol.

    Trydydd partïon dethol

    Caiff gwybodaeth ei rhannu gyda chategorïau penodol o drydydd partïon lle mae cwsmeriaid wedi nodi eu bod yn dymuno cael gwybodaeth am gynnyrch, gwasanaethau neu ymgyrchoedd hyrwyddo gan y trydydd partïon hynny a allai fod o ddiddordeb iddynt.

    Gall Grŵp y Post Brenhinol rannu data personol gyda sefydliadau neu gyrff cyhoeddus eraill at ddibenion cyfreithiol, fel yr heddlu, asiantaethau gorfodi’r gyfraith, asiantaethau atal twyll a chyrff eraill lle mae angen neu mae’n briodol ar gyfer atal neu ganfod trosedd neu i ddiogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch unrhyw berson.

    Awdurdodau post

    Bydd Grŵp y Post Brenhinol yn rhannu data personol gydag awdurdodau post dramor. Os byddwch yn anfon llythyr neu barsel dramor, bydd Grŵp y Post Brenhinol yn darparu’r data angenrheidiol ar gyfer cliriad tollau a threth neu ar gyfer sgrinio diogelwch. Bydd y wybodaeth hon fel arfer yn cynnwys: enw a chyfeiriad y morgludwr, enw a chyfeiriad y derbynnydd.

    Bydd Grŵp y Post Brenhinol hefyd yn rhannu data personol yn ymwneud â’r person y cyfeirir eitem atynt neu’r derbynnydd pan fydd eitem yn cael ei hanfon dramor. Pan fydd eitem yn cael ei hanfon dramor, byddwn yn rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer trafnidiaeth, cliriad tollau a dosbarthu i’r awdurdodau post dramor.

    Datgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu at ddibenion rheoliadol

    Gellir rhannu data personol gyda rheoleiddwyr, fel y Comisiynydd Gwybodaeth, lle y bo’n angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion rheoliadol fel cydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol. 

  • 6. Diogelwch ac atal twyll

     

    Os rhoddir gwybodaeth ffug neu anghywir a bod twyll yn cael ei ganfod, caiff y manylion eu trosglwyddo i asiantaethau atal twyll. Gellir rhannu gwybodaeth trwy Gronfa Ddata Twyll Cenedlaethol Cifas (https://www.cifas.org.uk/services/national-fraud-database). Gall asiantaethau gorfodi’r gyfraith gael mynediad i’r wybodaeth hon a’i defnyddio. Gall Grŵp y Post Brenhinol a sefydliadau eraill gael mynediad i’r wybodaeth hon a’i defnyddio hefyd er mwyn atal twyll a gwyngalchu arian, er enghraifft, wrth:

    • Wirio manylion ar geisiadau ar gyfer cyfleusterau credyd neu’n ymwneud â chredyd neu gyfleusterau eraill
    • Rheoli cyfrifon a chyfleusterau credyd ac yn ymwneud â chredyd
    • Adfer dyledion
    • Gwirio manylion ar geisiadau a hawliadau ar gyfer pob math o yswiriant
    • Gwirio manylion ceisiadau am swyddi a chyflogeion

    Byddwn ni a sefydliadau eraill hefyd yn cael mynediad i wybodaeth a gofnodwyd gan asiantaethau atal twyll o wledydd eraill ac yn ei defnyddio.

  • 7. Trosglwyddo data personol y tu hwnt i’r DU

     

    Gallwn anfon data personol y tu hwnt i’r DU pan fydd angen i gwmni Grŵp y Post Brenhinol neu gorff arall y tu hwnt i’r DU brosesu gwybodaeth at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

    Gallwn anfon gwybodaeth y tu hwnt i’r DU pan fyddwn yn defnyddio darparwr gwasanaeth neu ddarparwr technoleg wedi ei leoli dramor. Pan fyddwn yn anfon data personol y tu hwnt i Ardal Economaidd Ewrop ("EEA") byddwn yn sicrhau bod rhagofalon addas wedi eu sefydlu i ddiogelu’r wybodaeth honno. Er enghraifft, gallai’r rhagofalon hyn gynnwys:

    • Defnyddio model cymalau contract a ddarperir gan y Comisiwn Ewropeaidd
    • Y Comisiwn Ewropeaidd yn penderfynu bod gan y wlad neu’r sefydliad rhyngwladol lefel ddigonol o ddiogelwch data personol
    • Y wybodaeth yn cael ei thrin gan sefydliad sy’n darparu lefel o amddiffyniad sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd. Er enghraifft, y cynllun Gwarchod Preifatrwydd ar gyfer sefydliadau wedi eu lleoli yn UDA

    Gwasanaethau Post Rhyngwladol

    Pan fydd llythyrau neu barseli’n cael eu hanfon dramor, gall fod angen rhannu data personol rhwng awdurdodau post mewn gwledydd gwahanol. Gall data personol y mae Grŵp y Post Brenhinol yn ei gasglu oddi wrthych chi gael ei drosglwyddo i, neu ei storio neu ei brosesu mewn cyrchfan o fewn neu’r tu hwnt i EEA gennym ni neu un o’n cyflenwyr yn unol â chyfreithiau perthnasol yn ymwneud â diogelu data. Gallai prosesu o’r fath gynnwys, ymysg pethau eraill, cyflawni eich archeb, prosesu eich manylion talu a darparu gwasanaethau cymorth.

  • 8. Am ba hyd ydyn ni’n cadw data personol?

     

    Polisi Grŵp y Post Brenhinol yw ond cadw gwybodaeth am gyhyd â bod angen at ddiben neu ddibenion ei defnyddio. Byddwn yn pennu am ba hyd i gadw data gwahanol yn seiliedig ar y gofynion canlynol:

    • Am ba hyd y mae angen y wybodaeth at ddiben neu ddibenion ei defnyddio.
    • Gofynion cyfreithiol a rheoliadol – fel pan fydd angen i Grŵp y Post Brenhinol gadw cofnodion cwsmeriaid a chofnodion pryniannau ar gyfer cyfnod ychwanegol er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith neu yn achos hawliadau posibl.
  • 9. Eich hawliau cyfreithiol

     

    Os ydych yn dymuno ymarfer eich hawliau unigol yn ymwneud â’ch data personol, cysylltwch â’n Tîm Hawliau Gwybodaeth: information.rights@royalmail.com. Mae gennych yr hawliau canlynol:

    Yr hawl i gael eich hysbysu

    Bydd Grŵp y Post Brenhinol yn rhoi ‘gwybodaeth prosesu teg’ i chi, lle’r ydym yn casglu data personol gennych chi (e.e. pan fyddwch yn agor cyfrif neu’n gwneud cais am wasanaeth ar-lein) a hefyd trwy hysbysiadau preifatrwydd fel hwn.

    Hawl mynediad

    Mae gennych hawl i gael mynediad i’ch data personol a manylion sut yr ydym yn ei brosesu.

    Gallwch wneud cais am fanylion y data personol sydd gan Grŵp y Post Brenhinol amdanoch chi, trwy gysylltu â’n Tîm Hawliau Gwybodaeth – information.rights@royalmail.com

    Mae angen prawf hunaniaeth er mwyn diogelu eich gwybodaeth. Rydym hefyd yn gofyn i ymgeiswyr ddatgan pa wybodaeth a gweithgareddau prosesu y mae eu cais yn ymwneud ag ef (e.e. pa wasanaethau Grŵp y Post Brenhinol y mae’r cais yn ymwneud â nhw) yn ogystal â dyddiadau tebygol y prosesu. Gellir darparu ffurflen gais ddewisol i’n cynorthwyo ni i gadarnhau eich hunaniaeth a lleoli’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

    Hawliau unioni

    Mae gennych hawl i unioni data personol amdanoch chi os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.

    Bydd Grŵp y Post Brenhinol yn sicrhau bod data personol yn cael ei gadw’n gywir ac wedi ei ddiweddaru cyhyd â bo hynny’n rhesymol bosibl. Fodd bynnag, mae Grŵp y Post Brenhinol yn dibynnu ar gwsmeriaid i sicrhau bod rhywfaint o’r wybodaeth sydd ganddo amdanynt yn gywir ac wedi ei diweddaru. Rydym yn annog cwsmeriaid i hysbysu Grŵp y Post Brenhinol ynghylch unrhyw newidiadau i’w gwybodaeth (e.e. trwy ddiweddaru manylion eich cyfrif ar wefannau Grŵp y Post Brenhinol).

    Hawl i wrthwynebu

    Mae gennych hawl i wrthwynebu i rai o’r ffyrdd y caiff data personol ei ddefnyddio, fel marchnata uniongyrchol fel y nodir yn adran 4 uchod. Mae gan unigolion hefyd yr hawl i wrthwynebu i brosesu data personol yn seiliedig ar fuddiannau dilys neu gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

    Hawl i ddilead

    Mae gennych hawl i wneud cais ein bod yn dileu neu’n tynnu data personol o’n cofnodion os nad oes unrhyw reswm dilys dros barhau i’w brosesu. Os bydd angen data personol at ddibenion dilys o hyd, ni fydd yn bosibl dileu’r data hwnnw a gellir felly gwrthod rhai ceisiadau.

    Hawl i gyfyngu prosesu

    Mae gennych hawl i ‘atal’ data personol rhag cael ei brosesu mewn amgylchiadau cyfyngedig. Gallai’r hawl hyn fod yn berthnasol:

    • Os oes angen dilysu cywirdeb eich data personol,
    • Os yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yn cael ei herio a bod angen i Grŵp y Post Brenhinol ei ystyried,
    • Os oedd y prosesu’n anghyfreithlon ond nid ydych eisiau i’ch data personol gael ei ddileu, neu;
    • Os nad oes angen data personol bellach ar Grŵp y Post Brenhinol ond rydych chi eisiau i’r data gael ei gadw at ddibenion hawliad cyfreithiol.

    Hawl i hygludedd data

    Mae’r hawl hwn ond yn berthnasol i ddata personol yr ydych chi wedi ei roi i ni, yr ydym yn ei ddefnyddio ar sail eich caniatâd neu i gyflawni contract gyda chi.

    Mae’r hawl i hygludedd data yn galluogi unigolion i ailddefnyddio eu data personol ar draws gwasanaethau gwahanol; sy’n eu galluogi i symud neu gopïo data o un sefydliad i un arall os ydynt yn dymuno.

    Eich hawl i dynnu caniatâd yn ôl

    Os ydym yn prosesu eich data personol yn seiliedig ar eich caniatâd, mae gennych hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ôl. 

  • 10. Sut i gysylltu â ni

     

    Gall cwsmeriaid ag ymholiadau’n ymwneud â chynnyrch neu wasanaethau a ddarperir gan y Post Brenhinol gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid y Post Brenhinol am gymorth: Gwasanaethau Cwsmeriaid y Post Brenhinol

    Gall cwsmeriaid ag ymholiadau’n ymwneud â chynnyrch neu wasanaethau a ddarperir gan Parcelforce Worldwide gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid Parcelforce Worldwide am gymorth: http://www.parcelforce.com/contact-us

    Am ymholiadau’n ymwneud â’ch data personol, gallwch gysylltu â’n tîm Hawliau Gwybodaeth yn uniongyrchol:

    Information Rights and Governance Team
    Royal Mail Group
    Pond Street
    SHEFFIELD
    S98 6HR
    Ebost: information.rights@royalmail.com

    Ein Swyddog Diogelu Data

    Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Post Brenhinol yn

    Royal Mail Group
    100 Victoria Embankment
    London
    EC4Y 0HQ
    Ebost: information.rights@royalmail.com

    Hawl i wneud cwyn i’r awdurdod goruchwylio

    Os ydych o’r farn ein bod wedi methu cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol, mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol:

    Information Commissioner’s Office
    Wycliffe House
    Water Lane
    Wilmslow
    SK9 5AF
    www.ico.org.uk 

  • 11. Defnydd o Wefannau a Chwcis

     

    Gallwn gofnodi gwybodaeth am y dyfeisiadau a ddefnyddiwyd i gael mynediad i’n gwefannau a gwybodaeth am eich defnydd chi o’r gwefannau hynny, fel y tudalennau yr ydych wedi ymweld â nhw. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis i roi gwybodaeth i ni am y ffordd y caiff ein gwefannau eu defnyddio. Cwcis yw’r ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn defnyddio gwefan. Am fanylion Cwcis a ddefnyddir gan wefannau Grŵp y Post Brenhinol, yn cynnwys targedu neu hysbysebu cwcis, gweler y Polisi Cwcis ar ein gwefannau, yn cynnwys:

    www.royalmailgroup.com
    www.royalmail.com
    www.parcelforce.com
    www.marketreach.co.uk
    www.senditnow.com

12. Newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd

Byddwn yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen hon. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 23 Awst 2018.

 

Help and info

  • Help & support
  • Contact us
  • Terms & conditions
  • Privacy Notice
  • Go to desktop site
  • Cookies policy
  • Terms of use
  • Accessibility

Our other websites

  • Royal Mail Group
  • Parcelforce Worldwide

About us

  • I'm an employee
  • Supporting Action for Children
  • Latest news

Our partners

  • Stamp retailers
  • Keep Me Posted
  • Jobs
  • A-Z of services
  • Mailing tools
  • Sitemap
  • Cymraeg

Cookies Policy

Cookies are small text files stored by your device when you access most websites on the internet. We will use two types of cookies:

  • Session cookies - these expire when you close your browser and do not remain on your computer.
  • Persistent cookies - these are stored in the longer term on your computer. They are normally used to make sure the site remembers your preferences.

www.royalmail.com (this Website) uses cookies in order to make it easier to use and to support the provision of relevant information and functionality to you. Cookies also provide us with information about how this Website is used so we can keep it is as up to date, relevant and error free as possible. Further information about the types of cookies in use on this Website is set out below.

By using this Website you agree to the use of cookies. Please note that certain cookies may be set the moment you start visiting this Website. You can choose to manage the cookies we use on this Website through your browser settings at any time. For more information about how to do this, and about cookies in general, you can visit www.allaboutcookies.org .

Please note that preventing cookies is likely to impact the functionality or performance of this Website, or prevent you from using certain services provided through it. If you choose to prevent cookies, we cannot guarantee access to the services provided through this Website or be sure how this Website will perform during your visit. Preventing cookies will also affect our ability to update this Website to cater for user preferences and improve its performance.

The types of cookies we currently use on this Website are set out below. The cookie categories are based on the category definitions contained in the International Chamber of Commerce UK Cookie guide .

Cookie Category Details
 
Strictly necessary

Strictly necessary cookies are essential to enable you to move around this Website and use its features and/or services. These cookies allow this Website to provide services at the request of users.

This Website use strictly necessary cookies to:

  • Identify you as being logged in to this Website
  • Remember the goods and services you ordered when you get to the checkout page
  • Remember things like information you've entered on order forms when you navigate to different pages during your session on this Website
  • Remember things like service selections you have made which are essential for us to provide you with services you have requested
  • Make sure you connect to the right service on our website when we make any changes to the way the website works
Performance

Performance cookies allow us to update this Website to cater for Website user preferences and improve performance. They collect information about how this Website is used, e.g. which pages users visit most often and where error messages are delivered. These cookies don't collect information that identifies individuals. All information is aggregated and therefore anonymous.

This Website use performance cookies to:

  • Provide statistics on how this Website is used (including selections that you have made and goods and services that you have viewed, during your use of this Website)
  • See how effective our adverts are
  • Enable us to track and improve this Website by analysing visitor behaviour and results.
  • Improve the management and performance of tags on this Website.
Functional

Functional cookies allow this Website to remember choices you make, e.g. your user name, log in details and language preferences and any customisations you make to Website pages during your visit. They are necessary to provide features and services specific to individual users.

This Website use functional cookies to:

  • Identify you as having consented to use of cookies by this Website
  • Remember settings you've applied (such as layout, text size, preferences and colours)
  • Remember selections you have made (such as search functions and results, and goods and services)
  • Apply customised content segments to individual users
  • Apply users' individual service specifications (such as usage or credit allowance)
  • Share information with partners to provide a service on our website. The information shared is only to be used to provide the service, product or function and not for any other purpose

Targeting or advertising cookies

These cookies collect information about your browsing habits on this Website in order to make advertising both on this Website and other websites you subsequently visit relevant to you and your interests, to limit the number of times those adverts are served to you and to help measure the effectiveness of advertising campaigns.

This website uses the following targeting/advertising cookies:
 
  • Google / DoubleClick
    (you can learn more about how these cookies operate here: http://www.google.com/intl/en-GB/policies/technologies/ads/)
  • Facebook
    (you can learn more about how these cookies operate here: https://www.facebook.com/about/privacy/update) 
  • Turn Audience
    (you can learn more about how these cookies operate here: http://www.turn.com/privacy/)
  • Crimtan
    This cookie is used on the Marketreach.co.uk and RoyalMail.com MarketReach site sections. Its purpose is to create anonymous user profiles which enables us to deliver advertising that might be more relevant to you.
    (you can learn more about how these cookies operate here: https://crimtan.com/privacy/)
  • Avocet
    The Avocet cookie enables us to tailor the advertisements you see on third party sites by understanding what interests you on our sites, such as the web pages you view and the reports you download. Data is held anonymously and is used to both target advertisement placement and monitor the effectiveness of our advertising campaigns on other websites. (you can learn more about how these cookies operate here:
    https://avocet.io/privacy-policy)
  • Infinity Cloud
    This analytics cookie is used on the Mailmen.co.uk and RoyalMail.com MarketReach site sections. Its purpose is to understand the effectiveness of advertising that generated in-bound calls to Royal Mail related to marketing services offered.
    (you can learn more about how these cookies operate here: https://www.infinity.co/uk/privacy-policy)
  • Decibel Insight
    In order to provide better content and service, this site uses the Decibel Insight web analytics service. Decibel Insight may record actions and movement, as well as basic interactions with website forms. Its purpose is to understand points of friction during your visit that will inform future enhancements or initiate additional support features.
    (you can learn more about how these cookies operate here: https://www.decibelinsight.com/privacy-policy)
  • Microsoft/BingAds
    The BingAds cookie enables us to tailor the advertisements you see on third party sites by understanding what interests you on our sites, such as the web pages you view and the reports you download. Data is held anonymously and is used to both target advertisement placement and monitor the effectiveness of our advertising campaigns on other websites. (you can learn more about how these cookies operate here: https://privacy.microsoft.com/en-gb/privacystatement)
  • LinkedIn
    This cookie is used on the Marketreach.co.uk and RoyalMail.com MarketReach site sections. Its purpose is to create anonymous user profiles which enables us to deliver advertising that might be more relevant to you. (you can learn more about how these cookies operate here: https://www.linkedin.com/legal/cookie-policy)
  • Twitter
    This cookie is used on the Marketreach.co.uk and RoyalMail.com MarketReach site sections. Its purpose is to create anonymous user profiles which enables us to deliver advertising that might be more relevant to you. (you can learn more about how these cookies operate here: https://help.twitter.com/en/rules-and-policies/twitter-cookies)
  • Eloqua (Oracle)
    In order to provide better communications and marketing services, this website uses the Eloqua marketing automation platform for email marketing purposes. We use cookies to recognise visitors and record demographic and behavioural information for customers and prospects. (You can learn more about how these cookies work here: https://www.oracle.com/uk/legal/privacy/privacy-policy.html)
  • Tealium AudienceStream
    We use AudienceStream; a visitor data management platform, which uses cookies and other identifiers to recognise visitors to our websites. The purpose of this technology is to create a consolidated view of user interactions, in order to manage our communications. This helps ensure that our communications are relevant, timely and specific to the interests of the user. (You can learn more about how these cookies work here: https://tealium.com/privacy)
     
  • Captify/AddNexus
    This cookie is used on the MarketReach.co.uk website and MarketReach’s sections of the RoyalMail.com website. Its purpose is to create anonymous user profiles which enables us to deliver advertising that might be more relevant to you. Captify utilises technology supplied by AddNexus to serve and process the cookie. (You can learn more about how these cookies work here: http://www.captify.co.uk/privacy-policy-opt) and https://www.appnexus.com/en/company/cookie-policy)
     
  • You can also manage many organisations’ cookies used for online advertising at http://www.youronlinechoices.com/uk/your-ad-choices

In order to provide better content and services, this website also uses the Trustpilot customer review service. Trustpilot contacts users with an invitation to leave feedback on their experiences with Royal Mail. Its purpose is to understand customer views and to use these to inform future enhancements to the website. If you place an order, your email address may be securely shared with Trustpilot so that they can contact you. If you do not wish to be contacted further you can unsubscribe from the service by clicking the email unsubscribe link. You can find more information about Trustpilot here: https://uk.trustpilot.com/