Cymraeg

Croeso i borth Cymraeg y Post Brenhinol, sy’n cyfuno gwasanaethau y Post Brenhinol a Parcelforce Worldwide.

I gael gwybod mwy am Grŵp y Post Brenhinol, ewch i’n gwefan Grŵp y Post Brenhinol.

Olrhain eich eitem – Find my item
Gwirio statws eich eitem Tracked neu Signed For.

Ffurflen Hawlio Post wedi’i golli, ei ddifrodi neu'n destun oedi

Cyrchwr Côd Post a Chyfeiriad – Postcode finder
Dod o hyd i gôd post/cyfeiriad
Dod o hyd i'r côd post neu'r cyfeiriad cywir ar gyfer eiddo

Os hoffech gysylltu â ni, ffoniwch ein tîm perthnasol ar 03457 468 469, neu e-bostiwch ni gan ddefnyddio ein ffurflen ar lein

Os yn fyddar neu drwm eich clyw gallwch gysylltu â ni a ffôn destun ar 03456 000 606. 

Rydym ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 8yb – 6yh, dydd Sadwrn 8yb – 1yh ac dydd Sul 9yb – 2yh.

Neu gallwch ysgrifennu atom:
Freepost/Rhadbost GWASANAETHAU CWSMERIAID Y POST BRENHINOL

 

Gwasanaeth Ailgyfeirio

Angen i’ch post gael ei ddosbarthu’n gyflym i’ch cartref nesaf? Mae ein gwasanaeth Ailgyfeirio yn eich galluogi i ailgyfeirio i unrhyw gyfeiriad yn y DU neu dramor am 3, 6, neu 12 mis. Buddion ychwanegol:

  • Gallwch dderbyn cynigion gwych pan yn symud tŷ
  • Gallwch leihau’r perygl o dwyll hunaniaeth

Beth fydd ei angen arnoch;

  • Enwau a dyddiadau geni pawb sydd angen post wedi ei ailgyfeirio.
  • Cyfeiriad llawn a chod post eich hen gyfeiriad a’ch cyfeiriad newydd.
  • Rhoi o leiaf 5 diwrnod gwaith o rybudd o’r dyddiad yr ydych eisiau i’ch gwasanaeth Ailgyfeirio ddechrau.

Cael eich manylion yn iawn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym am yr enwau olaf gwahanol yr ydych eisiau i’r gwasanaeth Ailgyfeirio eu cynnwys. Os na fyddwch yn gwneud hyn, ni fydd y post sydd wedi ei gyfeirio at y bobl hynny’n cael ei ailgyfeirio.

Adnewyddu eich gwasanaeth Ailgyfeirio

Byddwn yn cysylltu â chi cyn i’ch gwasanaeth Ailgyfeirio ddod i ben. Gallwch adnewyddu am 3, 6 neu 12 mis. Ar gyfer post sydd wedi ei ailgyfeirio o FlwchSP®, uchafswm y cyfnod yw chwe mis.

Pa ffurflen i’w defnyddio

Os ydych yn symud i eiddo preswyl ac oddi yno, defnyddiwch ‘Ffurflen Gais Ailgyfeirio Defnyddwyr’.

Ar gyfer ceisiadau Ailgyfeirio ar ran yr ymadawedig neu bobl y mae gennych Atwrneiaeth ar eu cyfer, defnyddiwch y ‘Ffurflen Gais Ailgyfeirio mewn Amgylchiadau Arbennig’.
I ailgyfeirio post ar gyfer eich busnes, defnyddiwch y ‘Ffurflen Ailgyfeirio Busnes.’

Ffurflen Gais Ailgyfeirio Defnyddwyr (pdf, 1.89 MB)

Ffurflen Gais Ailgyfeirio Mewn Amgylchiadau Arbennig (pdf, 1.88 MB)

Amodau a Thelerau Ailgyfeirio Defnyddwyr (pdf, 119.15 KB) ac Amgylchiadau Arbennig

Sut i wneud cais

1.) Gwneud cais drwy’r post

a. Llenwch eich ffurflen gais.

b. Casglwch ddogfennau prawf hunaniaeth. Mae’r prawf hunaniaeth sydd ei angen yn wahanol yn dibynnu ar y math o wasanaeth Ailgyfeirio yr ydych yn gwneud cais amdano – gwiriwch eich ffurflen gais am fanylion llawn.
Dylech gynnwys ddogfennau gwreiddiol sy’n dangos y cyfeiriad yr ydych yn symud ohonno. Ni allwn dderbyn llungopïau a byddwn yn dychwelyd dogfennau gwreiddiol atoch. Os yw pawb sy’n gwneud cais yn rhannu’r un enw olaf, dim ond prawf hunaniaeth y person sy’n anfon y cais y mae angen i ni ei weld. Anfonwch brawf hunaniaeth ar gyfer bob person ag enw olaf gwahanol. Gallwch ddewis o un o’r canlynol:

c. Sut i dalu – rydym ond yn derbyn taliad trwy siec yn daladwy i Grŵp y Post Brenhinol Cyf. Mae’n rhaid i chi anfon siec ar wahân yn enw pob enw olaf gwahanol.

d. Postiwch eich ffurflen gais wedi ei llenwi, eich prawf hunaniaeth a siec(iau) ar gyfer y gwasanaeth Ailgyfeirio sydd ei angen i:

Royal Mail Redirection Centre
PO Box 944
STOKE ON TRENT
ST1 5DB
United Kingdom

Er diogelwch i chi, byddwn yn anfon llythyr cydnabyddiaeth i’ch hen gyfeiriad i gadarnhau eich bod wedi sefydlu gwasanaeth Ailgyfeirio.

2.) Gwneud cais yn Swyddfa’r Post®

a. Llenwch eich ffurflen gais.

b. Casglwch ddogfennau prawf hunaniaeth. Mae’r prawf adnabod sydd ei angen yn wahanol yn dibynnu ar y math o wasanaeth Ailgyfeirio yr ydych yn gwneud cais amdano – gwiriwch eich ffurflen gais am fanylion llawn.
Mae’n rhaid i’r prawf adnabod sy’n cael ei gyflwyno fod yn wreiddiol – ni dderbynnir llungopïau. Os ydych yn darparu biliau a chyfriflenni fel prawf hunaniaeth, mae’n rhaid iddynt fod wedi eu dyddio o fewn y tri mis diwethaf. Os yw pawb sy’n gwneud cais yn rhannu’r un enw olaf, dim ond prawf hunaniaeth yn enw’r person sy’n gwneud cais yn y gangen Swyddfa’r Post® sydd ei angen arnom. Os na, bydd angen ddau fath gwahanol o ddogfennau gwreiddiol – nid llungopïau – ar gyfer bob enw olaf gwahanol ar y ffurflen, un o Restr A ac un o Restr B.

c. Ewch â’ch ffurflen gais, eich dogfennau prawf hunaniaeth a’ch taliad i’ch Swyddfa Bost® agosaf.
Er diogelwch i chi, byddwn yn anfon llythyr cydnabyddiaeth i’ch hen gyfeiriad i gadarnhau eich bod wedi sefydlu gwasanaeth ailgyfeirio.

Angen cymorth?

Help links will open in a new window.